.
Amgueddfa Syr Henry Jones
Y Cwm, Llangernyw
Fel y rhan fwyaf o blant eraill ar ddiwedd y 19eg Ganrif, gadawodd Henry Jones yr ysgol pan oedd yn 12 oed ac fe aeth i weithio. Ond yn wahanol i eraill, roedd Henry’n cael ei annog i astudio. Ac yntau’n gweithio gyda’i dad, crydd y pentref, yn ystod y dydd ac ‘yn gweithio gyda’m llyfrau... drwy’r oriau mân a than doriad gwawr,’ fe enillodd ysgoloriaeth i hyfforddi’n athro.
Ar ôl parhau â’i astudiaethau, yn y pen draw daeth yn Athro Athroniaeth Foesol ym Mhrifysgol Glasgow. Roedd Henry’n athronydd ac athro penigamp, y dylanwadwyd yn fawr ar ei waith gan weithdy’r crydd a bywyd yn ei bentref genedigol. Ni anghofiodd byth ei wreiddiau gwerinol a gweithiodd yn galed i wella’r gyfundrefn addysg yng Nghymru. Ym 1912 cafodd ei urddo’n farchog ac ym 1922 fe’i gwnaed yn Gydymaith Anrhydedd.
Derbyniodd fedal Cymdeithas y Cymmrodorion am ei wasanaeth i Gymru hefyd. Yn dilyn marwolaeth Henry ym 1922 fe sefydlwyd cronfa goffa ac ym 1934 cafodd cartref ei blentyndod, Y Cwm, ei agor fel amgueddfa. Gallwch ymweld o hyd â gweithdy’r crydd a’r gegin a’r ystafell wely fechan lle’r oedd Henry a’i deulu’n gweithio ac yn byw. Ond gallwch hefyd ddysgu mwy am y capel, yr ysgol a bywyd mewn ‘pentref ucheldirol pellennig – y math o gartref y tarddodd y rhan fwyaf o’r hyn sydd orau yng Nghymru ohono’. Mae’n werth mynd yno.