Amgueddfa Syr Henry Jones

Y Cwm, Llangernyw

Agoriad 2023

Ar ddydd Sadwrn, 10fed o Fehefin, fe agorwyd y Cwm dros gyfnod yr Haf gyda’r arddangosfa “Straeon Gwledig o Lanrwst”.

 

(Ar y dde) Myfanwy yn rhoi sgwrs i'r gynylleidfa am gychwyniad yrarddangosfa.

 

Myfanwy Evans Jones oedd y wraig wadd a cawsom araith ddiddorol ganddi am syt y creuwyd y bordiau ar gyfer yr arddanosfa. Mae Myfanwy yn gweithio yn Llyfgell Llanrwst ac roedd yn un o’r rhai a fu yn y gweithdy gyda Rhian Cadwallader yn hel yr hanesion at eu gilydd ar gyfer y bordiau.

Roedd y tywydd yn fendigedig a chawsom gwmni drigolion lleol a chriw o gerddwyr Edward Llwyd yma i fwynhau paned a chacen yn yr awyr agored gyda ni cyn mynd i ymweld a’r ty a’r arddangosfa.

Bydd y Cwm ar agor pob bnawn Sadwrn o 2 – 4, hyd at diwedd fis Medi. Estynwn groeso cynes i bawb.

 

 

(Ar y chwith) Myfanwy yn agor yr Arddangosfa i'r cyhoedd


Hawlfraint © 2018-2023 Amgueddfa Syr Henry Jones

Cedir pob hawl.

Amgueddfa Syr Henry Jones

Ffôn: 01745 860630
Cysylltwch â Ni

Y Cwm
Llangernyw
Abergele
LL22 8PR

Mae Amgueddfa Syr Henry Jones yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 254120)

Amseroedd Agor 2023

3 Mehefin - 30 Medi
Dyddiau Sadwrn a Gwyliau Banc: 2pm. - 4pm.