.
Amgueddfa Syr Henry Jones
Y Cwm, Llangernyw
Wedi cyfnod dwys o drafod dros lawer o fisoedd, mae Ymddiriedolwyr Amgueddfa Syr Henry Jones, Llangernyw, wedi gwneud y penderfyniad anodd nad ydynt yn gallu parhau i redeg yr amgueddfa os na fydd rhagor o wirfoddolwyr. Rydym felly yn gofyn i bobl ddod ymlaen i gynnig ein helpu mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys bod yn Drysorydd neu Ysgrifennydd. Os fyddech yn barod i helpu, cysylltwch gyda syrhenryjones@hotmail.com neu ffoniwch Holly Evans (07739 972561) neu Morus Jones (01745 860663) cyn Tachwedd y 30ain. Os na fyddwn yn derbyn digon o ymateb, yn anffodus fydd gennym ddim dewis ond cau yr amgueddfa.
Mae Amgueddfa Syr Henry Jones yn bodoli er mwyn coffáu cyflawniadau Syr Henry Jones, ac er mwyn dehongli ei fywyd yng nghyd-destun cymuned wledig yng Nghymru yn y 19eg Ganrif. Gwneir hyn trwy gasgliadau, arddangosfeydd a deunyddiau addysgol yn yr amgueddfa.
Mae Amgueddfa Syr Henry Jones wedi’i lleoli yng nghanol pentref Llangernyw ar yr A548 rhwng Abergele a Llanrwst. Fe’ch cynghorir i gyrraedd mewn car neu ar fws gan fod y daith yn cymryd tua 15 munud mewn cerbyd o Lanrwst ac 20 munud o Abergele ar ffyrdd heb balmentydd ar gyfer cerddwyr.
8 Mehefin - 30 Medi
Dyddiau Sadwrn: 2pm. - 4pm.
Croesewir rhoddion (awgrymiad: £2)