.
Amgueddfa Syr Henry Jones
Y Cwm, Llangernyw
Byddwch mor garedig â chymeryd pum munud i edrych ar ein harolwg 2019.
Mae Amgueddfa Syr Henry Jones yn bodoli er mwyn coffáu cyflawniadau Syr Henry Jones, ac er mwyn dehongli ei fywyd yng nghyd-destun cymuned wledig yng Nghymru yn y 19eg Ganrif. Gwneir hyn trwy gasgliadau, arddangosfeydd a deunyddiau addysgol yn yr amgueddfa.
Mae Amgueddfa Syr Henry Jones wedi’i lleoli yng nghanol pentref Llangernyw ar yr A548 rhwng Abergele a Llanrwst. Fe’ch cynghorir i gyrraedd mewn car neu ar fws gan fod y daith yn cymryd tua 15 munud mewn cerbyd o Lanrwst ac 20 munud o Abergele ar ffyrdd heb balmentydd ar gyfer cerddwyr. Mae gwasanaeth bws (Gwasanaeth Rhif 43) ar gael, sy’n mynd o Felgrano i Langernyw, ddwywaith y dydd, bob dydd ac eithrio dydd Sul. Mae’r safle bysiau lai na 100m o’r amgueddfa.
Oedd arddangosfa yn Eglwys Sant Digain, Llangernyw , ar y 11 Tachwedd 2018
25 Mai - 28 Medi
Dyddiau Iau, Gwener, Sadwrn a Gwyliau Banc: 2pm. - 4pm.
Hefyd Dydd Llun, Mawrth a Mercher wythnos yr Eisteddfod
Croesewir rhoddion (awgrymiad: £2)